Polisïau

Cyfraniadau

Mae cymuned Universal Viewer yn croesawu cyfraniadau gan bawb. Mae Grŵp Llywio Universal Viewer yn adolygu cyfraniadau ac yn gyfrifol am benderfynu pryd mae gwaith yn barod i’w gyfuno â’r prif god a’i ryddhau. Mae ein canllaw cyfrannu yn rhoi cyfarwyddiadau manwl i gyfranwyr eu dilyn, ac mae croeso i unrhyw un ofyn cwestiynau am y broses drwy sianel Slack Universal Viewer.

Preifatrwydd

Nid yw universalviewer.io yn casglu, storio na phrosesu unrhyw ddata personol. Nid ydym yn defnyddio cwcis, cyfrifon defnyddwyr, technolegau olrhain na dulliau dadansoddi sy’n adnabod unigolion. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu heb gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr. Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd partïon. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd y gwefannau hynny, ac rydym yn eich annog i ddarllen eu polisïau preifatrwydd.

Datganiad Cyfryngau Cymdeithasol

Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Universal Viewer (UV) yn cael eu rheoli gan y Grŵp Llywio. Eu pwrpas yw hyrwyddo gwaith UV a’i gymunedau, rhannu enghreifftiau o arferion gorau, a thynnu sylw at y rhai sy’n cyfrannu at UV ac yn gwneud defnydd da ohono. Bydd pob neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei chyhoeddi’n ddidwyll, a bydd y Grŵp Llywio yn ystyried pob cais i ddileu negeseuon yr adroddir eu bod yn niweidio enw da’r gymuned. Os oes gennych bryder, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy universalviewerapp@gmail.com.