Sut Mae'n GweithioHawdd ei osod a'i reoli
Rhyngwyneb syml a greddfol sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio delweddau, dogfennau, sain a fideo yn rhwydd. Gyda nodweddion hawdd eu defnyddio a dull syml o reoli cynnwys, cewch chi a’ch ymwelwyr brofiad hwylus o’r dechrau i’r diwedd.
Dogfennaeth
Prif nodweddion Pam dewis Universal Viewer?
Gwneud casgliadau’n haws eu defnyddio
Wedi’i ddatblygu gyda hygyrchedd mewn golwg, gyda chefnogaeth ar gyfer bysellfyrddau a darllenwyr sgrin, a rhyngwyneb amlieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd.
Yn addas i’ch gwefan a’ch anghenion
Ychwanegwch Universal Viewer at eich gwefan a’i addasu i weddu i’ch casgliad. Gall eich tîm technegol ei addasu neu ychwanegu ato ymhellach yn ôl yr angen.
Agored, dibynadwy a gyda chefnogaeth
Syllwr ffynhonnell agored sy’n cael ei ddefnyddio gan sefydliadau diwylliannol ledled y byd, gydag opsiynau ar gyfer cynnwys gwarchodedig a chymuned weithgar wrth law i helpu.
ArddangosUniversal Viewer ar waith

Villanova University: Falvey Memorial Library
Portrait gallery of pugilists of America and their contemporaries

National Library of Wales
Cardiganshire Constabulary register of criminals

NCSU Libraries
The Nubian Message

The British Library
Lindisfarne Gospels

Bodleian Libraries, University of Oxford
MS. Bodl. 264

Riksarkivet (The Swedish National Archives)
Originaltraktater med främmande makter (traktater)
Cymuned Mae ein hadnoddau cymunedol yn ei gwneud hi’n haws i chi ddysgu sut i ddefnyddio Universal Viewer yn effeithiol.
Dysgu mwyGall sefydliadau sy’n dechrau defnyddio Universal Viewer gael cymorth uniongyrchol drwy sianel Slack Universal Viewer wrth fynd ati i’w osod.
Mae ein cyfarfodydd cymunedol misol hefyd yn rhoi cyfle i sefydliadau ofyn cwestiynau, datrys problemau a dysgu o brofiadau defnyddwyr eraill Universal Viewer.

















